Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 23 Mai 2022
Amser:
13.32 -
14.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12832
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS Peter Fox AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)201 - Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
3.1 WS-30C(6)009 - Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Esemptiadau Trawsgydymffurfio a Rheoleiddio Trosiannol) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ynghyd â’r sylwebaeth.
4 Fframweithiau cyffredin
4.1 Adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Fframweithiau Cyffredin Dros Dro ar gyfer Ansawdd Aer, a Chemegion a Phlaladdwyr
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Gohebiaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi at y Prif Weinidog Boris Johnson: Adolygu Llawlyfr y Cabinet
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad Tŷ’r Arglwyddi.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Blaenraglen Waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith.